Lleoliad:
Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 24 Ionawr 2023
Amser:
09.01 -
09.27
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Lesley Griffiths AS Darren Millar AS Siân Gwenllian AS |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Yan Thomas (Dirprwy Glerc) |
Eraill yn bresennol |
David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth, Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Jane Dodds.
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi
3 Trefn Busnes
3.1 Busnes yr wythnos hon
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Tynnodd y Llywydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:
3.2 Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Nid oes unrhyw newidiadau i amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
3.3 Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i wneud y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mercher 15 Chwefror 2023 -
4 Deddfwriaeth
4.1 Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) - amserlen
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyfeirio'r Bil at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol er mwyn trafod yr egwyddorion cyffredinol. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ohirio penderfyniad ar amserlen y Bil, gan gynnwys cais y Llywodraeth am gyfnod byrrach i graffu yng Nghyfnod1, er mwyn ymgynghori â'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a dychwelyd at y mater mewn cyfarfod yn y dyfodol.
4.2 Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad ynghylch Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio)
Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr ynghylch statws presennol Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) a bwriad y Llywodraeth i gyflwyno Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol pellach yn cynnwys yr holl welliannau perthnasol a gyflwynwyd ar gyfer y Cyfnod Adroddiad yn Nhŷ'r Cyffredin.
5 Busnes y Senedd
5.1 Y defnydd o ddadleuon 30 munud yn ystod amser y gwrthbleidiau
Ystyriodd y Pwyllgor Busnes yr arfer presennol ynghylch trefnu dadleuon yn amser y gwrthbleidiau a chytunodd i ymgynghori â grwpiau cyn dychwelyd at y mater yn y cyfarfod canlynol.